Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Castell-nedd Port Talbot (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd i’r Aelod gael ei arestio gan yr Heddlu ar amheuaeth o yrru ei gar tra’i fod dan ddylanwad alcohol.
Cyfeiriom ein hadroddiad ar yr ymchwiliad at Ddirprwy Swyddog Monitro’r Cyngor i’w ystyried gan y Pwyllgor Safonau lleol.
Caiff y crynodeb hwn ei ddiweddaru yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau.