Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod y Cyn Aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Tref Cei Newydd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi ei gyhuddo gan yr Heddlu o fwriad maleisus i flacmel neu aflonyddu.
Ein canfyddiad, o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd bod ein hadroddiad ar ein hymchwiliad yn cael ei gyfeirio at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, i’w ddyfarnu gan dribiwnlys.
Caiff y crynodeb hwn ei ddiweddaru yn dilyn penderfyniad Panel Dyfarnu Cymru.