Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Cyn Aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).
Honnodd yr Achwynydd fod y Cyn Aelod, tra oedd allan yn ymgyrchu dros etholiadau lleol, wedi siarad ag aelod o’r cyhoedd a ddywedodd y byddai’n pleidleisio dros Gynghorydd arall (yr Achwynydd). Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi ymateb drwy ddweud “Oh, the wife beater”.
Roedd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad yn awgrymu bod yr Aelod wedi torri nifer o ddarpariaethau yng Nghod Ymddygiad y Cyngor ar gyfer aelodau etholedig.
Ystyriodd yr Ombwdsmon a oedd y gŵyn yn ymwneud â rôl y Cyn Aelod ar y Cyngor ac a oedd y Cod yn berthnasol bob amser, ac roedd yn fodlon bod y Cod wedi cael ei gymhwyso’n llawn. Cadarnhaodd yr aelod o’r cyhoedd ei fod yn ymwybodol o statws y Cyn Aelod fel aelod o’r Cyngor, ac o ystyried ei bod yn ymgyrchu dros yr etholiadau, byddai wedi bod yn ymwneud â gweithgarwch gwleidyddol ar y pryd. Roedd yr Ombwdsmon felly wedi’i ddarbwyllo bod y Cyn Aelod yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Aelod ar yr adeg y gwnaed y sylw honedig.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn, yn ôl pwysau tebygolrwydd, bod y Cyn Aelod wedi cyfeirio at yr Achwynydd fel “wife beater” a bod hwn yn honiad difrifol i’w wneud yn erbyn rhywun heb dystiolaeth i’w gefnogi. Mewn cymuned fach, gallai gwneud datganiad o’r fath achosi niwed sylweddol i enw da y gall fod yn anodd datgysylltu ag ef. Wrth wneud datganiad o’r fath, ni fyddai fawr o ystyriaeth wedi bod i’r effaith y gallai hyn ei chael ar yr Achwynydd a’r rhai sy’n agos ato. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn, wrth wneud hynny, fod y Cyn Aelod wedi methu â dangos parch ac ystyriaeth angenrheidiol tuag at yr Achwynydd ac roedd o’r farn felly bod y cam hwn yn awgrymu torri paragraff 4(b) o’r Cod.
Mae cyfraith achos ar gymhwyso’r Cod ar gyfer aelodau yng Nghymru wedi sefydlu, er mwyn canfod achos o dorri’r ddarpariaeth “anfri”, bod yn rhaid i ymddygiad aelod effeithio ar enw da eu Hawdurdod a/neu rôl aelod etholedig a mynd y tu hwnt i effeithio eu henw da personol. Teimlwyd bod gweithredoedd y Cyn Aelod yn adlewyrchu’n wael arni hi’n bersonol, ond roedd yr Ombwdsmon hefyd o’r farn bod y sylw wedi’i wneud i aelod o’r cyhoedd ynghylch cyd-gynghorydd ac fe’i gwnaed yn rhinwedd swydd y Cyn Aelod fel Aelod o’r Cyngor ar y pryd, wrth gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol. Roedd yr Ombwdsmon felly wedi’i ddarbwyllo y byddai’r ymddygiad yn cael effaith ar enw da swyddfa’r Aelod. Roedd o’r farn bod gweithredoedd y Cyn Aelod yn hyn o beth yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.
Mae’r adroddiad ar yr ymchwiliad hwn felly wedi’i gyfeirio at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.
Canfu Pwyllgor Safonau’r Cyngor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.
Penderfynodd y Pwyllgor mai’r sancsiwn mwyaf priodol i’w gymhwyso oedd cerydd, a nododd ar gofnod os byddai’r Cyn Aelod wedi dal i fod yn Aelod etholedig, fyddant wedi gosod ataliad o 4 mis.
Gall yr aelod apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.