Dyddiad yr Adroddiad

11/03/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Llandeilo Bertholau

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202203308

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Llantilio Pertholey (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod (“y Cod Ymddygiad”).  Honnodd yr Achwynydd ei fod ef yn dyst i’r Aelod yn bygwth dyrnu cyd-Gynghorydd dros ddadl ynglŷn â’r defnydd o faes parcio lleol yn ystod cyfarfod llawn o’r Cyngor.  Ein canfyddiad, o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd bod ein hadroddiad ar ein hymchwiliad yn cael ei gyfeirio at Swyddog Monitro Cyngor Sir Fynwy, i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

Canfu’r Pwyllgor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.  Penderfynodd y Pwyllgor ei bod yn briodol ceryddu’r Aelod mewn perthynas â’r toriadau a ganfuwyd.  Yn ogystal, gwnaeth y Pwyllgor argymhellion hyfforddi.

Mae penderfyniad y Pwyllgor ar gael yma, ond dim ond fersiwn Saesneg sydd ar gael ar hyn o bryd – Decisions 28th-Aug-2024 09.30 Standards Committee.pdf (monmouthshire.gov.uk)