Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i 2 gŵyn a wnaed gan aelod o’r cyhoedd (“yr achwynydd cyntaf”) a’r Cyn Glerc (“yr ail achwynydd”) i Gyngor Tref Porthcawl (“y Cyngor Tref”) am Aelod (“yr Aelod”) o’r Cyngor Tref.
Honnwyd gan yr achwynydd cyntaf bod yr Aelod wedi defnyddio iaith sarhaus o natur hiliol ac amharchus tuag at aelodau eraill o’r Cyngor Tref ar gyfryngau cymdeithasol.
Honnwyd gan yr ail achwynydd fod yr Aelod wedi defnyddio iaith amharchus tuag at y Cyn Glerc ar gyfryngau cymdeithasol ac wedi gwrthod ymddiheuro mewn cyfarfod o’r Cyngor Tref.
Cyfeiriom ein hadroddiad ar ein hymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Caiff y crynodeb hwn ei ddiweddaru yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau.