Dyddiad yr Adroddiad

01/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202203322/202203379

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Cymuned Penyrheol, Trecenydd ac Energlyn (“y Cynghorau”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.

Derbyniom 4 cwyn bod y Cynghorydd wedi torri Codau Ymddygiad y Cynghorau. Roedd yr achwynwyr yn pryderu am lun a chapsiwn a bostwyd gan y Cynghorydd ar Facebook. Dangosodd y llun y Cynghorydd yn sefyll ar draeth yn dal reiffl. Roedd y neges cyd-fynd yn dweud: “Ogmore-by-Sea tonight for a quick swim and make sure there wasn’t (sic) any English people trying to cross the channel”.

Canfuom fod y Cynghorydd wedi postio’r neges ar Facebook a’i dileu tua phythefnos yn ddiweddarach pan oedd y cyfryngau cenedlaethol, gwleidyddion ac aelodau’r cyhoedd yn pryderu am briodoldeb y post. Bryd hynny, postiodd y Cynghorydd ymddiheuriad am dramgwyddo unrhyw un, a dywedodd fod ei bostiad yn un fyrbwyll.

Canfuom fod yr Heddlu wedi derbyn honiadau bod y Cynghorydd wedi postio cyfathrebiad maleisus a bod y Cynghorydd wedi cytuno i’r broses cyfiawnder adferol i ddatrys materion. Gwnaeth y Cynghorydd gyfaddefiad llawn i drosedd y yn erbyn Adran 5 y drefn gyhoeddus,  gyda chymhelliad hiliol. Arwyddodd ddatganiad gan yr Heddlu lle eglurodd nad oedd wedi bwriadu achosi tramgwydd ond i gael jôc gyfeillgar gyda’i ffrindiau Saesneg. Derbyniodd wrth edrych yn ôl y gallai fod wedi peri gofid i eraill, roedd wedi datgan yn wirfoddol i’r Heddlu mai ef oedd perchenog y reiffl awyr (nad oedd yn weithredol), ac roedd wedi postio ymddiheuriad ar Facebook.

Canfuom fod y Cynghorydd wedi cael ei atal dros dro gan ei blaid, Plaid Cymru, tra’n aros am eu hymchwiliadau a’i fod wedi’i ailbenodi wedi hynny.

Yn gyffredinol, daethom i’r casgliad bod ymddygiad y Cynghorydd yn awgrymu torri’r paragraff:

  • 6(1)(a) o Godau Ymddygiad y Cynghorau. Mae hwn yn dweud na ddylai cynghorwyr ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried fel un sy’n dwyn anfri ar eu swydd, neu eu hawdurdod.

Mae’r adroddiad ar yr ymchwiliad hwn felly wedi’i gyfeirio at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

Canfu Pwyllgor Safonau’r Cyngor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.

Penderfynodd y Pwyllgor mai’r sancsiwn mwyaf priodol i’w gymhwyso oedd ceryddu, gydag argymhelliad am hyfforddiant pellach mewn perthynas â Chod Ymddygiad yr Aelodau, gyda phwyslais arbennig ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn atal achosion o dorri rheolau rhag codi yn y dyfodol.