Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Tywyn a Bae Cinmel (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) wrth brynu bwyd i fanc bwyd ar ran y Cyngor. Honnwyd bod yr Aelod wedi defnyddio ei gerdyn gwobrwyo personol (cynllun ffyddlondeb sy’n rhoi cyfle i gwsmeriaid gronni pwyntiau y gellir eu defnyddio i wario yn yr archfarchnad) i gronni pwyntiau wrth brynu bwyd i fanc bwyd ar ran y Cyngor, cyn defnyddio’r pwyntiau hynny er budd personol.
Mae’r Aelod wedi gwadu’r honiadau a dywedodd ei fod wedi defnyddio’r pwyntiau i brynu eitemau ychwanegol ar gyfer y banc bwyd. Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd yr achwynydd yn dyst i’r digwyddiadau, a’i fod wedi cael gwybod am yr honiadau gan ddau aelod o staff yr archfarchnad dan sylw. Nid oedd un aelod o staff yn fodlon darparu unrhyw dystiolaeth i’r Ombwdsmon. Dywedodd yr ail aelod o staff nad oedd ganddi unrhyw dystiolaeth ac nad oedd ond yn gwybod yr hyn yr oedd pobl eraill wedi’i ddweud wrthi. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth ar gael gan dystion. Roedd llawer iawn o amser wedi mynd heibio ers y digwyddiadau ac nid oedd tystiolaeth ar gael ynghylch pa eitemau penodol y honnid i’r Aelod eu prynu, ac ar ba ddyddiadau.
Nododd yr Ombwdsmon hefyd fod yr Aelod wedi cytuno, yn dilyn cyngor gan y Swyddog Monitro, i beidio â defnyddio ei gerdyn gwobrwyo personol mwyach wrth brynu bwyd i’r banc bwyd ar ran y Cyngor. O ystyried hyn, y diffyg tystiolaeth a oedd ar gael, a’r amser a oedd wedi mynd heibio ers y digwyddiadau, roedd yr Ombwdsmon o’r farn na fyddai’n gymesur ymchwilio ymhellach i’r mater.