Dyddiad yr Adroddiad

03/23/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Hwlffordd

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202208468

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Cyn-aelod (“y Cyn-aelod”) o Gyngor Tref Hwlffordd (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”). Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad y Cyn-aelod fod wedi torri amodau paragraff 4(a), 4(b), 4(c), a 6(1)(a) o’r Cod.

Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor. Cafodd y tystion, gan gynnwys yr Achwynydd, eu cyfweld. Cafodd y Cyn-aelod ei gyfweld.

Mewn perthynas â Pharagraff 4(a), honnwyd bod y Cyn-aelod wedi trin aelodau benywaidd y Cyngor yn wahanol. Yn benodol, honnwyd bod y Cyn-aelod yn gofyn am dreuliau gan aelodau benywaidd yn unig, ei fod yn anwybyddu aelodau benywaidd yn ystod cyfarfodydd a’i fod yn ceisio atal aelod benywaidd rhag cael eu penodi’n Faer y Cyngor.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y Cyn-aelod wedi gofyn am dreuliau gan unigolion a oedd yn dal swydd a oedd yn cynnwys lwfans – yn yr achos hwn, dim ond aelodau benywaidd o’r Cyngor a oedd yn dal swydd a oedd yn cynnwys lwfans. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y Cyn-aelod wedi gofyn am wybodaeth o’r fath ar sail rhyw. Yn ogystal, canfuwyd bod gan y Cyn-aelod broses i sicrhau nad oedd yn anwybyddu unrhyw gynghorydd oedd eisiau siarad mewn cyfarfod. Darparwyd tystiolaeth i gadarnhau esboniad y Cyn-aelod. Felly, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod tystiolaeth i gadarnhau’r gŵyn bod y Cyn-aelod wedi anwybyddu aelodau benywaidd o’r Cyngor. Yn olaf, canfu’r ymchwiliad fod y mater yn ymwneud ag ethol y Maer yn un cynhennus. Cymerodd y Cyn-aelod gamau priodol i geisio cyngor gan y corff priodol, Un Llais Cymru. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd unrhyw dystiolaeth bod gweithredoedd y Cyn-aelod yn cael ei ysgogi gan wahaniaethu ar sail rhyw. Yn unol â hynny, canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd ymddygiad yr Aelod yn awgrymu bod amodau paragraff 4(a) o’r Cod wedi’u torri.

Mewn perthynas â Pharagraff 6(1)(a), honnwyd bod y Cyn-aelod wedi dwyn anfri ar ei swydd a’i awdurdod o ganlyniad i erthygl yn y wasg yn yr Almaen, a oedd yn honni ei fod wedi ymddwyn yn wael yn ystod taith i Oberkirch, gefeilldref Hwlffordd, ym mis Medi 2022. Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiad. Daeth yr erthygl y cwynwyd amdani i law, ac nid oedd yn cyfeirio at ymddygiad honedig y Cyn-aelod. Felly, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod tystiolaeth i awgrymu bod amodau paragraff 6(1) (a) o’r Cod wedi’u torri.

Mewn perthynas â Pharagraff 4(b) a 4(c) o’r Cod, honnwyd bod y Cyn-aelod wedi ymddwyn mewn ffordd amharchus a bygythiol tuag at yr Achwynydd yn ystod tri chyfarfod gwahanol. Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, mewn perthynas â dau gyfarfod y cwynwyd amdanynt, fod tystiolaeth y tyst yn anghyson. Canfu’r Ombwdsmon, ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael, nad oedd digon o dystiolaeth i brofi bod y Cyn-aelod wedi methu â thrin yr Achwynydd â pharch ac ystyriaeth neu wedi defnyddio ymddygiad y gellid ei ystyried fel bwlio yn ystod dau o’r cyfarfodydd y cwynwyd amdanynt.

Mewn perthynas â’r trydydd cyfarfod y cwynwyd amdano, canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod tystiolaeth yn dangos bod y Cyn-aelod wedi gweiddi ac wedi codi ei lais. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, oherwydd y ffaith ei fod wedi gweiddi, bod y Cyn-aelod wedi methu â thrin dau gynghorydd â pharch ac ystyriaeth, a oedd yn awgrymu bod amodau paragraff 4(b) wedi’u torri. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd gweithredoedd y Cyn-aelod yn cael ystyried fel bwlio o fewn ystyr y Cod. Yn olaf, daeth i’r casgliad nad oedd ymddygiad y Cyn-aelod yn ddigon difrifol i awgrymu bod amodau paragraff 6(1)(a) o’r Cod wedi’u torri.

Wrth ystyried a oedd angen cymryd camau pellach, bu’r Ombwdsmon yn ystyried y cefndir a’r wybodaeth gyd-destunol, unrhyw fesurau lliniaru perthnasol a’r tebygolrwydd o unrhyw sancsiwn, pe bai’r mater yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor Safonau.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod tystiolaeth yn dangos bod y berthynas rhwng y Cyn-aelod a’r Achwynydd dan straen. Cafwyd tystiolaeth gan dystion a oedd hefyd yn awgrymu bod y Cyn-aelod wedi cael ei drin yn wael gan aelodau eraill o’r Cyngor, gan gynnwys yr Achwynydd. Yn benodol, roedd y sylw a roddwyd i gyfarfod y Cyngor yn y wasg yn nodi bod yr Achwynydd wedi gwneud sylwadau am y Cyn-aelod ac wedi’i ddisgrifio fel “gwarth i’r dref”. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod tystiolaeth o ymddygiad gwael yn gyffredinol mewn cyfarfodydd. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn cydnabod bod y Cyn-aelod wedi ceisio delio â’r materion a godwyd. Mae’r Cyn-aelod wedi ymddiswyddo fel aelod o’r Cyngor ac nid yw’n bwriadu dychwelyd.

Gan nad yw’r Cyn-aelod yn aelod o’r cyngor mwyach, pe bai Pwyllgor Safonau’r Cyngor Sir yn canfod achos o dorri’r amodau’r Cod Ymddygiad, byddai unrhyw gosb yn cael ei chyfyngu i gerydd yn unig. Yng ngoleuni’r uchod, roedd yr Ombwdsmon o’r farn na fyddai cymryd camau pellach yn fater er budd y cyhoedd.

O dan Adran 69(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 2000, canfu’r Ombwdsmon nad oedd dim angen cymryd camau pellach yng nghyswllt y materion a oedd yn destun yr ymchwiliad.