Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Llansanffraid (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad yn dilyn collfarn droseddol am yrru tra’n uwch na’r terfyn cyfreithiol ar gyfer alcohol.
Cyfeiriom ein hadroddiad ar yr ymchwiliad at Ddirprwy Swyddog Monitro Cyngor Sir Ceredigion i’w ystyried gan y Pwyllgor Safonau lleol.
Caiff y crynodeb hwn ei ddiweddaru yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau.