Dyddiad yr Adroddiad

24/01/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gwrthrychedd a phriodoldeb

Cyfeirnod Achos

202200739

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd yr Ombwdsmon atgyfeiriad bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bro Morgannwg (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) pan ymgeisiodd am nifer o grantiau busnes.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 4(b), 4(d), 6(1)(a), 7(a), 7(b), 15(1)(b) a 15(2) o’r Cod.

Cyfeiriom ein hadroddiad ar yr ymchwiliad at Ddirprwy Swyddog Monitro’r Cyngor i’w ystyried gan y Pwyllgor Safonau lleol.

Caiff y crynodeb hwn ei ddiweddaru yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau.