Dyddiad yr Adroddiad

04/04/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202300535

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Mae Mr C wedi cwyno am y gofal a gafodd ei ddiweddar fam-yng-nghyfraith, Mrs B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pan gafodd ei derbyn i Ysbyty Gwynedd ym mis Hydref 2021. Yn benodol, cwynodd Mr C na chafodd Mrs B ofal o safon resymol, gyda diffyg cyfathrebu â’i phrif ofalwr i ddeall ei hanghenion gofal, a arweiniodd at niwed y gellid bod wedi’i osgoi i gyfanrwydd y croen. Cwynodd Mr C hefyd fod oedi diangen wedi bod gyda’r ymateb i’r gŵyn a gafodd gan y Bwrdd Iechyd, a oedd wedi ychwanegu at y gofid a’r rhwystredigaeth a ddioddefodd y teulu.

Canfu’r ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gofal o safon resymol i Mrs B pan gafodd ei derbyn i Ysbyty Gwynedd ym mis Hydref 2021. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad hefyd fod methiannau yn y ffordd yr ymdriniwyd â chwyn Mr C, a chafodd hyn ei gadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr C am y methiannau a nodwyd ac i adolygu’r ffordd yr ymdriniodd â’r gŵyn yn yr achos hwn er mwyn nodi unrhyw wersi i’w dysgu.