Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs B, gan y Practis Meddyg Teulu ym mis Gorffennaf a mis Awst 2022. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon a ddylai gwrthfiotigau fod wedi cael eu rhagnodi yn ystod, neu yn dilyn, ymweliad â’r cartref ar 25 Gorffennaf 2022, a ddylai ymweliadau â’r cartref fod wedi cael eu cynnal ar 26 Gorffennaf ac 11 Awst 2022, ac a ddylai meddyginiaethau rhagweledol (diwedd oes) fod wedi cael eu rhagnodi’n gynt.
Canfu’r ymchwiliad fod y penderfyniad i beidio â rhagnodi gwrthfiotigau yn ystod, neu yn dilyn, yr ymweliad â’r cartref ar 25 Gorffennaf 2022 yn briodol. Mae hyn am nad oedd unrhyw arwydd clinigol bod dirywiad Mrs B ar y pryd oherwydd haint y llwybr wrinol. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod y penderfyniadau i beidio â chynnal ymweliadau â’r cartref ar 26 Gorffennaf neu 11 Awst yn briodol. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod y ffaith na chafodd meddyginiaethau rhagweledol eu rhagnodi tan 12 Awst o fewn yr ystod ymarfer clinigol priodol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion.