Dyddiad yr Adroddiad

04/30/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202303151

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss A fod oedi o 7 wythnos rhwng cael diagnosis o colecystitis aciwt (llid y goden fustl) ar 16 Tachwedd 2021 a llawdriniaeth i dynnu coden y bustl ar 5 Ionawr 2022. Holodd Miss A petai cael tynnu coden y bustl yn gynt fod wedi atal yr angen iddi gael llawdriniaeth agored.

Canfu’r ymchwiliad fod y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â colesystitis aciwt Miss A yn gyson ag arferion da derbyniol a’r canllawiau perthnasol bob amser. Nid oedd y penderfyniad i gynnal llawdriniaeth agored yn dangos bod unrhyw beth yn bod â’r gofal a gafodd Miss A. Hefyd, nid oedd oedi amhriodol rhwng diagnosis o colecystitis aciwt Miss A a’r llawdriniaeth i dynnu coden y bustl. Felly, ni chafodd y gŵyn yn erbyn y Bwrdd Iechyd ei chadarnhau.