Dyddiad yr Adroddiad

04/29/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308695

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am reolaeth a gofal ei mam, Mrs B, yn ystod ei chyfnod o 8 mis fel claf mewnol yn Ysbyty Glan Clwyd (yr Ysbyty Cyntaf) ac Ysbyty Cymuned Treffynnon (yr Ail Ysbyty). Dywedodd nad oeddent wedi ceisio darganfod beth oedd o’i le ar ei mam a’u bod wedi’i gwylio’n dirywio. Cyfeiriodd Mrs A at y ffaith bod ei mam wedi colli pwysau, wedi cael nifer o drallwysiadau gwaed a’r ffaith ei bod wedi colli’r gallu i symud yn gyfan gwbl. Dywedodd Mrs A hefyd fod osteomyelitis ei mam (haint yn yr asgwrn), a oedd yn ddim mwy na chlwyf bychan bach cyn iddi gael ei derbyn i’r ysbyty, wedi gwaethygu ac na wnaeth byth wella. O ganlyniad i’w dirywiad, nid oedd ei mam mewn cyflwr digon da i gael archwiliad ar gyfer canser posib ar y coluddyn. Roedd Mrs A yn teimlo fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi bod yn “ddewisol iawn”, er enghraifft, nid oedd wedi mynd i’r afael â’r ffaith bod ei mam wedi colli pwysau yn yr Ysbyty Cyntaf.

Nododd yr Ombwdsmon fod dietegwyr wedi bod yn ymwneud â rheoli pwysau a maeth Mrs B ac, ar yr olwg gyntaf, roedd y camau a gymerwyd yn yr Ail Ysbyty yn ymddangos yn rhesymol. Gan nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymdrin â phroses rheoli pwysau Mrs B yn yr Ysbyty Cyntaf, nid oedd modd dweud pa ystyriaeth a roddwyd i hyn.

Er ei bod yn ymddangos bod prosesau rheoli clwyf Mrs B yn ystod ei gofal fel claf mewnol yn briodol, nid oedd yn glir o ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn beth oedd wedi digwydd o ran yr adolygiad llawfeddygol a argymhellwyd gan y nyrs hyfywedd meinwe (“TVN”) tra oedd Mrs B yn glaf mewnol yn yr Ysbyty Cyntaf. Ar ben hynny, nid oedd yr ymateb yn mynd i’r afael yn ddigonol â phryder Mrs A am symptomau canser y coluddyn posib ei mam yn yr Ysbyty Cyntaf.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb pellach i Mrs A. Byddai’r ymateb yn mynd i’r afael â dulliau rheoli pwysau Mrs B, canlyniad yr adolygiad llawfeddygol, yn ogystal â phryderon Mrs A am symptomau canser y coluddyn posib tra’r oedd yn yr Ysbyty Cyntaf.