Cwynodd Mr X nad oedd Cyngor Sir Powys wedi ymateb i’w gŵyn ynghylch y gwaith trwsio tŷ a oedd heb ei wneud yn ogystal â phryderon am ei gostau gwresogi.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi ac esgeulustod â’r ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi ei ymateb cam 2 o fewn 3 wythnos, a dylai hefyd gynnwys ymddiheuriad am yr oedi, a thalu iawndal o £100.