Cwynodd Mr B ei fod yn anhapus â Phractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Practis”) yn dilyn y ffordd y siaradwyd ag ef yn ystod galwad ffôn gyda meddyg. Roedd yn anhapus mai’r un meddyg oedd wedi ymateb i’w gŵyn ysgrifenedig.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd yn briodol i’r sawl a oedd yn destun y gŵyn ddarparu ymateb i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ysgrifennu at Mr B o fewn 10 diwrnod gwaith i ymddiheuro am y ffordd yr ymdriniodd â’i gŵyn ac i esbonio’r newidiadau mae’r Practis wedi’u gwneud i atal hyn rhag digwydd eto.