Dyddiad yr Adroddiad

04/17/2024

Achos yn Erbyn

Tai Cymoedd i'r Arfordir

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202309102

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd y taliadau gwasanaeth a gasglwyd gan Dai Cymoedd i’r Arfordir yn cael eu gwario at y diben y cawsant eu casglu, ac nad oedd y gwaith arfaethedig wedi’i wneud yn ardaloedd cymunedol ei gartref.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod Mr A wedi bod yn gohebu â Thai Cymoedd i’r Arfordir ers peth amser ynghylch y taliadau gwasanaeth, nad oedd wedi cael ei gyfeirio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru ac yn hytrach fe’i cynghorwyd i wneud cwyn i’r swyddfa hon. Roedd rhywfaint o’r ohebiaeth a anfonwyd at Mr A hefyd yn anghywir, gan gynnwys achlysur lle cafodd Mr A wybod bod ei dâl gwasanaeth yn codi er ei fod yn mynd i lawr mewn gwirionedd.

Cytunodd Tai Cymoedd i’r Arfordir i ymddiheuro i Mr A am beidio â’i gyfeirio at Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru ac am y camgymeriad yn yr ohebiaeth a anfonwyd ato ynghylch ei dâl gwasanaeth. Cytunodd hefyd i gynnig taliad o £150 i Mr A i gydnabod yr amser a’r drafferth a achoswyd iddo.