Dyddiad yr Adroddiad

04/22/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309125

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi delio’n gywir â’i hawliad am daliadau Gofal Iechyd Parhaus ar gyfer ei ddiweddar fam.

Wrth ymchwilio i gŵyn Mr A, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi penodi ymchwilydd annibynnol addas i ystyried ac ymateb i’w gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr A o fewn 20 diwrnod gwaith i gydnabod ac ymddiheuro am y camgymeriad o ran y ffordd yr ymdriniodd â’i gŵyn ac i nodi cyfleoedd dysgu i sicrhau bod ymchwilwyr annibynnol addas yn cael eu penodi i ymchwilio i gwynion.