Dyddiad yr Adroddiad

04/02/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309245

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss H fod Meddygfa Heol yr Eglwys Newydd wedi methu â rhoi sylw i’w phryderon am gamymarfer honedig ac atgyfeiriadau maleisus yn ei hymateb i’r gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Feddygfa wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn ond nad oedd wedi rhoi digon o sylw i’w phryderon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss H. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i ysgrifennu at Miss H i ymddiheuro am y methiant a nodwyd ac i gyhoeddi ymateb pellach i’r gŵyn.