Cwynodd Mr X nad oedd Cyngor Sir Powys wedi ymateb i’w gŵyn am y gwasanaethau cymdeithasol ynghylch gofal ei blentyn sydd mewn gofal preswyl.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi, esgeulustod a dryswch. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael y Cyngor i gytuno i gyhoeddi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr X (cyn pen pythefnos) a ddylai hefyd gynnwys esboniad a sicrwydd y bydd yn bwrw ymlaen i ymchwilio i’r gŵyn yng Ngham 2 o’i broses gwyno fewnol.