Dyddiad yr Adroddiad

04/18/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309442

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w chŵyn, na rhoi diweddariadau rheolaidd, mewn perthynas â’r gŵyn a gyflwynodd iddo 6 mis yn gynharach.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi ymateb, a diweddariadau rheolaidd, i Ms X a achosodd rwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms X ac a arweiniodd hi i gysylltu â’r Ombwdsmon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn (o fewn pythefnos), a ddylai hefyd gynnwys esboniad ac ymddiheuriad am yr oedi, yn ogystal ag iawndal o £100.