Dyddiad yr Adroddiad

04/30/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309578

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr Y nad oedd y Practis wedi ymateb i’w gŵyn am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w ddiweddar fam.

Canfu’r Ombwdsmon fod 6 mis wedi mynd heibio ers i’r Practis gydnabod y gŵyn, ond nad oedd wedi ymchwilio i’r mater na darparu ymateb. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ymddiheuro i Mr Y ac i ddarparu ymateb i’r gŵyn o fewn 10 diwrnod gwaith.