Cwynodd Mrs A am y gofal a gafodd ei diweddar chwaer gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phractis Meddyg Teulu.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs A wedi cwyno i’r Bwrdd Iechyd yn 2022 ond nad oedd wedi cael ymateb ffurfiol i’w chwynion o dan broses gwyno Gweithio i Wella y GIG. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol o fewn 30 diwrnod gwaith:
• darparu ymateb ffurfiol i gŵyn Mrs A, gan gynnwys ymateb gan y Practis Meddyg Teulu.
• ymddiheuro i Mrs A a chynnig taliad o £250 iddi i adlewyrchu’r ansicrwydd a achoswyd.