Dyddiad yr Adroddiad

04/29/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309854

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs F fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Hydref 2023.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chŵyn ac nad oedd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs F i ymddiheuro am y methiannau a nodwyd ac i roi ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.