Dyddiad yr Adroddiad

04/19/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309991

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms M fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ag ymateb i’w chŵyn a gyflwynwyd iddo ym mis Gorffennaf 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi cyn i’r Bwrdd Iechyd ofyn am wybodaeth ychwanegol gan Ms M i’w alluogi i ymgymryd â’i ymchwiliad a’i fod wedi methu ag ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms M. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms M o fewn pythefnos i esbonio’r oedi cyn ymateb i’w chŵyn ac i ymddiheuro am y methiannau a nodwyd. At hynny, cytunwyd y byddai’r Bwrdd Iechyd yn cynnig iawndal o £75 i Ms M am yr amser a’r anghyfleustra o wneud cwyn i’r Ombwdsmon ac ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.