Dyddiad yr Adroddiad

04/25/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309997

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Gorffennaf 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymdrin â phryderon Miss D yn anffurfiol yn y lle cyntaf, ond ei fod wedi methu â chofnodi ei phryderon fel cwyn ffurfiol pan oedd hi’n parhau i fod yn anfodlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss D i ymddiheuro am y methiant i wneud cwyn ffurfiol ac i ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.