Dyddiad yr Adroddiad

04/29/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202310243

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms K fod Cyngor Abertawe wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Hydref 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cofnodi pryderon Ms K fel cwyn Cam 1, ond nad oedd wedi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms K. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Ms K i ymddiheuro am y methiant ac i gyhoeddi ymateb i gŵyn Cam 1 o fewn 4 wythnos.