Dyddiad yr Adroddiad

04/26/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202400216

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i gŵyn a wnaeth iddo ym mis Mehefin 2023 na rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi anfon nifer o lythyrau ateb dros dro at Mr A, rai ohonynt ar ôl cael ei annog gan ei eiriolwr. Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn nac wedi dweud wrth Mr A pryd y byddai’n cyhoeddi ei ymateb. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am yr oedi ac esbonio’r rhesymau amdano ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.