Dyddiad yr Adroddiad

04/30/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202400605

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms T fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cydnabod y gŵyn a wnaeth iddo ym mis Chwefror 2024 ond nad oedd wedi ymateb i’w chŵyn na darparu unrhyw ddiweddariadau.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Ms T ac nad oedd wedi cyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms T, o fewn pythefnos, i ymddiheuro am y methiant i ddarparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu’r rhain yn fisol nes byddir wedi ymateb i’r gŵyn. At hynny, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 12 wythnos.