Dyddiad yr Adroddiad

05/22/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202304520

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms B ei bod wedi cael ei rhyddhau’n amhriodol o wasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ym mis Awst 2022.

Canfu’r ymchwiliad fod rhyddhau Ms B o’r gwasanaethau iechyd meddwl ym mis Awst 2022 yn briodol ac yn unol â’r dulliau rheoli clinigol arferol. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad hefyd na chynigiwyd copi o’i llythyr rhyddhau i Ms B ac i’r graddau cyfyngedig hyn cafodd ei chŵyn ei chadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms B. Cytunodd hefyd i adolygu’r ffordd y mae’n cynnig copïau o lythyrau clinig cleifion allanol o fewn y gwasanaeth hwn a sut y gallai gydymffurfio â chanllawiau perthnasol mewn perthynas â hyn.