Dyddiad yr Adroddiad

05/02/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202306571

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms X am safon y gofal a roddwyd i’w thad, Mr Y, tra oedd yn glaf mewnol yn Ysbyty Bronllys, sef gwasanaeth ysbyty dan arweiniad meddygon teulu. Yn benodol, cwynodd Ms X y dylai meddygon fod wedi canfod methiant y galon Mr Y yn gynt a threfnu trosglwyddiad cynharach i ysbyty gwahanol (ar gyfer gofal acíwt).

Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal a roddwyd i Mr Y yn briodol. Cafodd Mr Y ei fonitro’n briodol yn yr ysbyty ac nid oedd canlyniadau ei brofion wedi cyfeirio’n benodol at fethiant y galon. Roedd y penderfyniad i’w drosglwyddo i ysbyty gwahanol hefyd yn rhesymol ac yn amserol gan ei fod wedi mynd yn sâl ac nid oedd ei gyflwr yn gwella. Nid oedd unrhyw beth i awgrymu y byddai triniaeth neu gamau ychwanegol wedi effeithio ar y canlyniad i Mr Y o ystyried y dirywiad yng ngweithrediad ei galon. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.