Dyddiad yr Adroddiad

22/05/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202308458

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod y Cyngor wedi methu â chefnogi ei ddiweddar dad yn ariannol gyda ffioedd ei gartref gofal pan ddisgynnodd ei asedau o dan y trothwy cyfalaf a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Mr A fod trothwy Llywodraeth Cymru wedi’i osod ar £50,000 a’i fod wedi bod ar y lefel honno drwy gydol ei ymgais i sicrhau arian ar gyfer ffioedd cartref gofal ei dad, ac roedd Mr A yn credu bod ganddo hawl i hyn.

Roedd Mr A yn ddig bod y Cyngor wedi cyhoeddi gwybodaeth anghywir a chamarweiniol ar ei wefan a oedd yn nodi mai £30,000 oedd y trothwy (trothwy ar gyfer 2017-2018 oedd hwnnw). Dywedodd Mr A ei fod o dan yr argraff nad oedd ei dad yn gymwys am gymorth ariannol am fod ganddo £35,000 ar y pryd (yn 2022). Dywedodd mai dim ond ar ôl iddo wneud rhagor o waith ymchwil annibynnol y cafodd wybod am y camgymeriad yng nghanllawiau’r Cyngor.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y canllawiau dan sylw wedi camarwain Mr A ynghylch y trothwy a oedd yn berthnasol ar y pryd ac felly wedi gohirio’n sylweddol ei gyswllt â’r Cyngor i ofyn am yr asesiad angenrheidiol o gymhwysedd ei dad. Yn anffodus, bu farw tad Mr A cyn y gellid cynnal yr asesiad angenrheidiol.

Fel Datrysiad Cynnar i’r gŵyn hon, ac yn hytrach na chynnal ymchwiliad llawn, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gymryd y camau angenrheidiol i benderfynu ar y cymorth ariannol sy’n ddyledus, os o gwbl, i dad Mr A ar sail yr wybodaeth sydd ar gael ynghylch ei iechyd/anghenion a’i asedau ariannol yn ystod y cyfnod dan sylw (h.y. o’r adeg pan ddisgynnodd ei asedau ariannol yn is na’r trothwy o £50,000 a oedd yn berthnasol ar y pryd). Cytunodd y Cyngor i wneud hyn cyn pen 3 mis.