Dyddiad yr Adroddiad

15/05/2024

Achos yn Erbyn

Fferyllfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Fferyllfa

Cyfeirnod Achos

202309658

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Fferyllfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi rhoi meddyginiaeth anghywir iddi, a gymerodd am 10 diwrnod yn ddiarwybod iddi. Dywedodd Mrs A fod y feddyginiaeth anghywir wedi’i gwneud yn sâl iawn.

Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb y Fferyllfa i gŵyn Mrs A wedi bod yn gryno iawn, ac nad oedd yn ymddangos fel petai’n cymryd cyfrifoldeb dros y camgymeriad dosbarthu nac yn cydnabod yr effaith ar Mrs A.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd gytundeb y Fferyllfa i ddarparu ymateb pellach i gŵyn Mrs A sy’n cydnabod ac yn rhoi cyfrif am y pryderon a’r salwch a brofodd Mrs A. Cytunodd y Fferyllfa i roi’r cam hwn ar waith cyn pen 20 diwrnod gwaith.