Dyddiad yr Adroddiad

05/08/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202400284

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu ymateb i’w chŵyn ynghylch trwsio drws yn ei chartref.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi ac esgeulustod wedi bod gyda’r ymateb a oedd wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael y Gymdeithas i gytuno i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn (cyn pen 3 wythnos), a ddylai gynnwys ymddiheuriad ac eglurhad ynghylch yr oedi ac iawndal o £150 i gydnabod yr oedi a’r angen i gysylltu â’r Ombwdsmon.