Dyddiad yr Adroddiad

05/16/2024

Achos yn Erbyn

Tai Cymunedol Bron Afon

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202400307

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms F fod Tai Cymunedol Bron Afon Cyf wedi methu datrys gollyngiadau dŵr amrywiol yn ei chartref, ac wedi methu ymateb i’w chŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu ag uwchgyfeirio cwyn Ms F i Gam 2 yn dilyn nifer o negeseuon ebost yn amlinellu ei hanfodlonrwydd ag ymateb Cam 1. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anhwylustod ychwanegol i Ms F. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Ms F i ymddiheuro am yr esgeulustod a’r oedi cyn uwchgyfeirio ei chŵyn i Gam 2. Dylai hefyd uwchgyfeirio ei chŵyn i Gam 2 a chynnig iawndal ariannol o £50 iddi am yr amser a’r drafferth o orfod cysylltu â’r Ombwdsmon.