Dyddiad yr Adroddiad

05/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202400379

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr P fod Cyngor Sir Ceredigion wedi methu â chasglu ei sbwriel dro ar ôl tro.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr P wedi cwyno i’r Cyngor ond nad oedd wedi prosesu’r gŵyn yn unol â’i drefn gwyno ac nad oedd wedi ystyried y gŵyn yng ngham dau. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi anhwylustod ac ansicrwydd i Mr P. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr P am beidio â phrosesu’r gŵyn yn gywir ac i roi ymateb cam dau i gŵyn Mr P o fewn 20 diwrnod gwaith.