Dyddiad yr Adroddiad

05/07/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202400411

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A ei bod yn anhapus ag ymateb y Practis i’w chŵyn am gael apwyntiadau dros y 12 mis diwethaf.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Practis yn egluro’r hyn a ganfuwyd o ganlyniad i’w ymchwiliad i bryderon Ms A. Nid oedd yn cadarnhau a nodwyd unrhyw wersi i’w dysgu nac a ellid gwneud unrhyw newidiadau. Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth am sut i uwchgyfeirio’r gŵyn i’r Ombwdsmon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ailystyried cwyn Ms A, egluro’r hyn a ganfuwyd yn ei ymchwiliad ac unrhyw bwyntiau dysgu a nodwyd. Cytunodd y Practis hefyd i adolygu’r wybodaeth mae’n ei rhoi i achwynwyr am eu hawliau i uwchgyfeirio eu cwynion.