Dyddiad yr Adroddiad

05/24/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202400640

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms V fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Medi 2023.

Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi sylweddol cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anhwylustod ychwanegol i Ms V. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith a chynnig iawndal ariannol o £50 am yr anhwylustod.