Dyddiad yr Adroddiad

05/22/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202400857

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) wedi methu ag ymgymryd â’r gwaith trwsio y cytunwyd arno yn ei hystafell ymolchi ar ôl i ddŵr ollwng yno, ac y rhoddwyd gwybod iddo amdano ym mis Medi 2023. Mewn ymateb i gŵyn Miss A, dywedodd y Cyngor wrthi fod y gwaith trwsio wedi’i gwblhau ym mis Mawrth 2024. Roedd Miss A yn anghytuno â hynny.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cwblhau’r gwaith trwsio fel yr oedd yn ei honni yn ei ymateb i gŵyn Miss A. Dywedodd y Cyngor ei fod wedi gwneud camgymeriad a bod yr atgyweiriadau y cyfeiriwyd atynt yn ei ymateb wedi cael eu gwneud mewn eiddo gwahanol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Miss A ac ymgymryd â gwaith atgyweirio ei nenfwd, o fewn 10 diwrnod gwaith. Ar ben hynny, o fewn 10 diwrnod gwaith i gwblhau’r gwaith atgyweirio ar y nenfwd, i wneud trefniadau â Miss A i gwblhau gweddill y gwaith trwsio.