Dyddiad yr Adroddiad

05/20/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Pontypwl

Pwnc

Gwrthrychedd a phriodoldeb

Cyfeirnod Achos

202208273

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod cyn aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Cymuned Pontypwl (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“Cod Ymddygiad”).

Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi datgelu cynnwys adroddiad cyfrinachol a baratowyd ac a gyhoeddwyd fel rhan o agenda ar gyfer pwyllgor staffio cyfrinachol, i aelod o staff yr effeithiwyd arno’n uniongyrchol gan y cynnwys, gan achosi gofid iddynt.

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a oedd y Cyn Aelod wedi torri’r Cod drwy ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol, neu wybodaeth y dylid yn rhesymol ei hystyried yn wybodaeth gyfrinachol, heb gydsyniad datganedig person a awdurdodwyd i roi cydsyniad o’r fath, neu oni bai ei fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i wneud hynny.

Derbyniodd y Cyn Aelod yn llwyr ei fod wedi datgelu’r wybodaeth gyfrinachol i’r aelod o staff ond cydnabu, wrth edrych yn ôl, mai camgymeriad oedd hynny. Ymddiswyddodd wedi hynny o’i swydd fel cynghorydd. Rhoddodd ymddiheuriad ysgrifenedig i’r Clerc.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod gweithredoedd y Cyn Aelod yn awgrymu torri paragraff 5(a) o’r Cod Ymddygiad, roedd ei ymddiheuriad a’i ymddiswyddiad dilynol, yn golygu na fyddai cymryd camau pellach er budd y cyhoedd.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.