Dyddiad yr Adroddiad

26/06/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202304528

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i Mr B yn yr Ysbyty Cyntaf rhwng 3 ac 8 Mai 2022 yn briodol. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwynion a), b) a c). Ystyriwyd bod y diagnosis a’r rheolaeth o rwystr coluddyn Mr B hefyd yn rhesymol a phriodol yn ystod y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, ni ystyriwyd ei bod yn briodol anfon Mr B adref am 01:00 ar 4 Mai yn dilyn ystyriaeth gychwynnol o’i sgan ymchwiliol, gyda chyfarwyddiadau i ddychwelyd i’r Ysbyty Cyntaf am 10:00 i’w adolygu ymhellach. Nid oedd unrhyw arwydd o niwed clinigol i Mr B yn hyn o beth, ond roedd yn anghyfiawnder iddo ef ac i’w deulu na roddwyd gofal ac ystyriaeth briodol i’w amgylchiadau bryd hynny. I’r graddau cyfyngedig hynny yn unig, cafodd yr elfen hon o gŵyn d) ei chadarnhau

Rwy’n argymell, o fewn 1 mis i ddyddiad yr adroddiad hwn, y dylai’r Bwrdd Iechyd wneud y canlynol:

a) Ymddiheuro i deulu Mr B am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn

b) Sicrhau bod yr adroddiad hwn a’i ganfyddiadau’n cael eu rhannu â staff yn Uned Asesu Singleton, er mwyn galluogi staff i bwyso a mesur y methiannau a nodwyd.