Cyflwyniad

Mae diogelu oedolion sydd mewn perygl yn cyfeirio at amddiffyn yr oedolion hynny rhag cael eu cam- drin neu eu hesgeuluso. Mae’n flaenoriaeth a rennir gan sawl gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys Awdurdodau Lleol, yr Heddlu a Byrddau Iechyd. Mae’r daflen ffeithiau hon yn edrych ar gwynion am ddiogelu oedolion mewn perygl gan adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol

Dylid cwyno ynghylch y gofal a roddir i oedolyn sy’n wynebu risg i’r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf, a bydd yna’n cael ei edrych arno o dan y weithdrefn gwyno y Gwasanaethau Cymdeithasol. Fel arfer, byddwn yn disgwyl i chi fod wedi dilyn y gweithdrefnau hynny cyn cwyno i ni. Fodd bynnag, os oes rhesymau da pam nad yw hyn yn bosibl, efallai y byddwn yn ystyried derbyn cwyn cyn hynny.

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn:

  • edrych ar gŵyn bod oedolyn sy’n wynebu risg wedi dioddef anghyiawnder o ganlyniad i fethiant gwasanaeth neu fethiant gweinyddol gan Awdurdod Lleol yng Nghymru;
  • edrych ar gŵyn ynghylch a yw Awdurdod Lleol wedi dilyn y weithdrefn statudol o ran diogelu oedolion a gweithdrefn gwyno statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol;
  • edrych ar gŵyn bod yr Awdurdod Lleolwedi methu â gweithredu argymhellion y swyddog ymchwilio annibynnol yng Ngham 2 yn y weithdrefn gwyno statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn:

  • ymchwilio’n uniongyrchol i gwynion o gam-drin. Cyfrifoldeb y cyrff sy’n cyflawni rôl diogelu oedolion mewn perygl yw hynny;
  • edrych ar faterion gwahardd, disgyblu neu faterion personél am aelodau o staff y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Materion i gadw mewn cof

Gallwn ymchwilio i gwynion am y camau a gymerwyd gan Wasanaethau Cymdeithasol yng nghyswllt diogelu oedolion mewn perygl. Gallwn hefyd edrych ar gwynion am y camau a gymerwyd gan Wasanaeth Iechyd mewn achosion o’r fath. Fodd bynnag, ni allwn edrych ar unrhyw gwynion am yr Heddlu. Os ydych am gwyno am y rhan a chwaraewyd gan yr Heddlu yn y materion ymarhaid i chi gwyno wrth y Comisiynydd heddlu perthnasol.

Gall Byrddau Iechyd hefyd fod yn gyfrifol am gydlynu ymchwiliad hefyd dan amgylchiadau lle ceir honiadau bod cam-drin wedi bod mewn saf1e dan ofal y GIG neu le ceir honiadau bod gweithiwr y GIG wedi cam-drin oedolyn mewn perygl.

Gallwn ymchwilio hefyd i gwynion am Fwrdd Iechyd a’r ffordd mae’n rheoli pryderon diogelu oedolion. Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliadau i unrhyw droseddau honedig.

Efallai y bydd yn rhaid i ni rannu gwybodaeth â chyrff eraill lle ni’n gweld bod iechyd a diogelwch un neu fwy o bobl dan fygythiad ac rydym yn credu y dylai’r wybodaeth gael ei datgelu er lles y cyhoedd.

Gwybodaeth bellach

Efallai y byddwch am gysylltu â’r mudiadau canlynol am gyngor:

Mae Age Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn, eu teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr yng Nghymru. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 08000 223 444 neu drwy fynd i’w gwefan yn https: /www.ageuk.org.uk/cymru

Mae Mind Cymru yn rhoi cymorth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0300 123 3393 neu drwy eu gwefan yn https: /www.mind.org.uk/about-us/mind-cymru

Mae MENCAP Cymru yn cynnig cymorth, gwybodaeth a chymorth ar unrhyw beth sy’n ymwneud ag anableddau dysgu. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0808 8000 300 neu drwy eu gwefan yn https: /wales.mencap.org.uk/

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn llais annibynnol ac yn hyrwyddwr dros bobl hŷn ledled Cymru.

Gallwch gysylltu â nhw ar 03442 640670 neu ar-lein yn https://comisiynyddph.cymru/

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ ombwdsmon.cymru