SWYDD WAG: Cynorthwyydd Delio ag Achosion Dros Dro

HYD:                    3 mis

LLEOLIAD:        Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr (oddi ar Gyffordd 35 yr M4)

CYFLOG:            £30,000 y flwyddyn                                                                       

ORIAU:                 37 awr yr wythnos

Oes gennych chi Radd yn y Gyfraith ac ydych chi’n chwilio am brofiad ym maes ymchwiliadau rheoleiddio?  Rydym yn awyddus i recriwtio unigolyn i wneud gwaith paragyfreithiol i ni am 3 mis.  Swydd dros dro yw hon a byddwch yn gweithio o’n swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr, oddi ar Gyffordd 35 yr M4.

Byddwch yn gweithio fel rhan o’n Tîm Cod Ymddygiad, gan ddarparu cymorth gyda’r gwaith gweinyddu ymchwiliadau cyffredinol, a allai gynnwys bod mewn cyswllt â phartïon perthnasol o ddydd i ddydd, trefnu cyfweliadau tystion/trydydd partïon, cyfarfodydd, casglu tystiolaeth ysgrifenedig, cynorthwyo gyda chyfweliadau tystion (yn arsylwadol fel ail berson).  Mae’n bosib y bydd gofyn i chi ddrafftio/paratoi datganiadau tystion i’w llofnodi, helpu i gasglu a pharatoi bwndeli tystiolaeth yn gyffredinol gan ddefnyddio Adobe, ac adolygu trawsgrifiadau cyfweliadau sy’n golygu gwrando’n ôl ar gyfweliadau aelodau i sicrhau bod trawsgrifiadau’n gywir.

I wneud cais am y swydd dros dro hon, mae angen i chi fod â Gradd yn y Gyfraith, sgiliau TG da, a dealltwriaeth/profiad ymarferol o ddefnyddio Adobe.  Rydym yn chwilio am rywun i ddechrau arni cyn gynted â phosibl.

I wneud cais, cyflwynwch eich CV i recriwtio@ombwdsmon.cymru.

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.

Rydym yn annog pawb i ddod â nhw eu hunain yn llwyr i’r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.