Dyddiad yr Adroddiad

21/06/2024

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202305819

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr C am y driniaeth a gafodd gan Bractis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Mai 2023. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a oedd yn briodol gwrthod triniaeth Mr C oherwydd iddo gael gwaith deintyddol dramor, a oedd oedi rhoi llenwad i Mr C o 6 mis wedi achosi difrod pellach i’w ddant, ac a oedd yn briodol dadgofrestru Mr C o’r Practis.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y driniaeth a gafodd Mr C gan y Practis yn briodol. O ystyried y gwaith deintyddol yr oedd Mr C wedi’i wneud dramor, fe wnaethom ganfod ei bod yn briodol i’r Deintydd wrthod triniaeth. Fe wnaethom hefyd ganfod nad oedd yr oedi cyn rhoi llenwad wedi achosi niwed pellach i’r dant a’i bod yn briodol dadgofrestru Mr C o’r Practis pan chwalodd y berthynas.

Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwynion Mr C.