Dyddiad yr Adroddiad

11/06/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i Ysbyty; Erall

Cyfeirnod Achos

202309223

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar dad, Mr B, gan y Practis, gan gynnwys nad oedd wedi trin anemia ei thad yn ddigonol.

Er bod y Practis wedi rhagnodi un mis o asid ffolig, penderfynodd yr Ombwdsmon na chynhaliwyd ymchwiliad pellach i lefel ffolad Mr B ar ôl i bresgripsiwn y mis ddod i ben. Ar y cyfan, roedd yn debygol y dylai’r presgripsiwn asid ffolig fod wedi parhau. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Fe wnaeth hi geisio a chael cytundeb y Practis, y byddai o fewn 20 diwrnod gwaith yn ysgrifennu at Ms A i gydnabod ac ymddiheuro nad oedd rheoli diffyg ffolad ei thad yn briodol, ac i adolygu ei driniaeth o’r cyflwr hwn i wella gofal ar gyfer cleifion yn y dyfodol.