Dyddiad yr Adroddiad

07/06/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202400537

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms Q fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu â delio ag atgyweirio ar gyfer datrys mater sy’n ymwneud â dŵr yn mynd i mewn i eiddo ac yn gollwng drwy fentiau aer yn y to.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas wedi mynd i eiddo Ms Q i wneud gwaith, y bu camgyfathrebu rhwng Ms Q a’r contractwr ynghylch y gwaith a oedd angen ei wneud. Yn ychwanegol, ni wnaed unrhyw apwyntiad gyda Ms Q cyn i’r contractwyr fod yn bresennol. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth a dryswch ychwanegol i Ms Q. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael cytundeb y Gymdeithas i gynnal arolygiad o fewn pythefnos, gyda’r gwaith i’w gwblhau o fewn y 4 wythnos ddilynol. Yn ogystal â hyn, rhaid gwneud apwyntiadau cyn yr adolygiad gyda llythyrau cadarnhau, a rhaid i’r rhai sy’n mynychu ddod â dogfennau adnabod gyda nhw.