Dyddiad yr Adroddiad

06/06/2024

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202400599

Canlyniad

Early resolution

Cwynodd Mr C am y gofal a gafodd gan y Practis. Dywedodd Mr C fod y Practis wedi methu â thrafod ei driniaeth gydag ef yn fanwl, na dweud wrtho mai therapydd deintyddol yn hytrach na deintydd fyddai’r sawl a fyddai’n cynnal y driniaeth. Cwynodd Mr C hefyd fod y Therapydd Deintyddol wedi defnyddio amalgam (cymysgedd o fetelau) yn y llenwad, nad oedd wedi cytuno i hyn, a’i fod yn anhapus ag ansawdd y gwaith a wnaeth.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr C wedi cael ymateb i’w gŵyn gan y Therapydd Deintyddol a gyflawnodd ei driniaeth. Fodd bynnag, nid oedd wedi derbyn ymateb ffurfiol gan y Practis. O ganlyniad, nid oedd y Practis wedi rhoi sylw llawn i gŵyn Mr C.
Cytunodd y Practis i ddarparu ymateb ffurfiol a therfynol i gŵyn Mr C, gan fynd i’r afael â’i bryder bod triniaeth wedi’i rhoi heb ei gydsyniad gwybodus. Byddai hyn yn cynnwys p’un ai’r Deintydd oedd yn gyfrifol am ei driniaeth neu’r Therapydd Deintyddol a’i cyflawnodd, ac a gofnodwyd cydsyniad gwybodus priodol. Cytunodd hefyd i gynnig apwyntiad i Mr C er mwyn iddo gael adolygiad o’i ddant. Cytunodd y Practis i wneud hyn o fewn 1 mis i benderfyniad yr Ombwdsmon.