Dyddiad yr Adroddiad

10/06/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202400612

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Esboniodd Mrs S ei bod, ym mis Medi 2022, wedi derbyn gwaith papur gan y Cyngor a oedd yn datgan bod ei mam yn derbyn Taliadau Uniongyrchol, a oedd yn anghywir. Dywedodd Mrs S fod Taliadau Uniongyrchol wedi cael eu trafod yn 2019, ond na chawsant eu rhoi ar waith. Felly gofynnodd dro ar ôl tro a ddylent fod wedi digwydd, ond nid oedd y Cyngor wedi mynd i’r afael yn uniongyrchol â’i hymholiad. Pan wnaeth y Cyngor atgyfeirio Mrs S at yr Adran Gwynion ym mis Ionawr 2024, dywedwyd wrthi na fyddai’n ymchwilio i’w chŵyn gan ei bod yn rhy hwyr.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs S wedi cwestiynu’r datganiad yn brydlon pan ddaeth yn ymwybodol ohono, a bod y Cyngor wedi cydnabod ac ymddiheuro am faterion cyfathrebu yn 2023. Roedd hefyd wedi dweud ei bod yn ymddangos bod “dryswch neu wybodaeth wedi’i chamddeall o bosib” ond nad oedd wedi archwilio lle gallai’r dryswch hwnnw fod wedi codi na pha effaith y gallai fod wedi’i chael. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd yn rhesymol i’r Cyngor ddweud yn syml bod y gwaith papur yn anghywir ond bod y digwyddiadau yr oedd y gwaith papur yn cyfeirio atynt wedi dod i ben.

Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Ms S am fethu archwilio a mynd i’r afael â’i phryder yn llawn. Cytunodd hefyd i ymchwilio ac egluro’n union lle digwyddodd y “dryswch neu’r wybodaeth a allai gael ei chamddeall”, sut roedd hyn yn achosi i’r ffurflen gynnwys gwybodaeth anghywir, ac a yw canlyniad yr ymchwiliad hwnnw’n dangos bod camweinyddu wedi digwydd yn 2019. Yn olaf, cytunodd i gymryd camau priodol os daethpwyd o hyd i unrhyw gamweinyddu pellach. Cytunodd i gymryd y camau hyn o fewn 6 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.