Cwynodd Mr A am sut y gwnaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (“PEDW”) ddelio â’i gŵyn, ac nad oedd wedi ymateb i’w negeseuon e-bost.
Canfu’r Ombwdsmon fod PEDW wedi cael trafferthion gyda rhai negeseuon e-bost ddim yn eu cyrraedd. Penderfynodd bod oedi wedi bod ar ran PEDW wrth ddelio â chŵyn Mr A, ac nad oedd wedi ymchwilio’n drylwyr i’r materion yn ymwneud â negeseuon e-bost Mr A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi oedi i Mr A ac y gallai fod wedi effeithio ar ei allu i apelio yn erbyn achos. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael cytundeb PEDW i ymddiheuro i Mr A ac i uwchgyfeirio ei gŵyn yn unol â’i drefn gwyno, i ystyried sut yr effeithiodd y broses o ddelio â chwynion ar y gallu i apelio, i unioni unrhyw faterion a nodwyd, ac i ddarparu ymateb terfynol o fewn 20 diwrnod gwaith.