Dyddiad yr Adroddiad

26/06/2024

Achos yn Erbyn

Cafcass Cymru

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202400886

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A ei bod yn anhapus â’r ffordd yr oedd Cafcass Cymru wedi ymateb i’w phryderon am y gwasanaeth a ddarparwyd i’w theulu.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb Cafcass Cymru i’r gŵyn yn glir. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael cytundeb Cafcass Cymru i ailystyried y gŵyn yn unol â’i bolisi cwyno, gan ddiffinio’n glir pa agweddau y gellir/na ellir eu hystyried.